Cwrdd â WNO

Sarah Adedeji

Mae Sarah Adedeji, sef menyw Fyddar Brydeinig Nigeriaidd amlweddog, yn Berfformiwr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) o Lundain. Mae ei gweithiau’n cynnwys Deaf Rave, Whimsy, Y Dewis, Swyn, A Night in Sign, a llawer mwy. Mae hi hefyd yn ddawnsiwr, yn awdur cyhoeddedig ac yn awdiolegydd amser llawn. Mae Sarah yn eiriolwr dros bobl fyddar, gan addysgu a lledaenu ymwybyddiaeth ar sianeli cyfryngau cymdeithasol trwy greu cynnwys a thrwy gyfrwng podlediad o’r enw Socially Sound, a gyflwynir ar y cyd â Kirsty Jade.