Y Fonesig Sarah Connolly
Ganwyd Y Fonesig Sarah Connolly yn Swydd Durham ac astudiodd piano a chanu yn y Royal College of Music, lle mae hi nawr yn Gymrawd. Gwnaethpwyd yn DBE yn yr Anrhydeddau Penblwydd 2017 ac yn 2023 gwobrwywyd iddi Fedal Gerddoriaeth y Brenin, gwobr a roddwyd yn flynyddol i unigolyn rhagorol neu grŵp o gerddorion sydd wedi cael dylanwad sylweddol ar fywyd cerddorol y wlad. Mae hi wedi canu yng ngwyliau Aldeburgh, Caeredin, Lucerne, Salzburg a Tanglewood ac y BBC Proms lle roedd yn unawdwr y Noson Olaf yn 2009. Mae ei gwaith opera wedi’i chymryd i bedwar ban y byd, o’r Metropolitan Opera i'r Royal Opera House, Paris Opera, La ScalaMilan, Tai Opera’r Wladwriaeth yn Fienna, Munich a Bayreuth, a gwyliau Glyndebourne ac Aix-en-Provence.
Gwaith diweddar: Jocaste Oedipus Rex (Dutch National Opera); Elijah Mendelssohn (LSO/Sir Antonio Pappano) a Sea Pictures Elgar (Orchestre de Paris/Esa-Pekka Salonen).