Cwrdd â WNO

Sarah L Grange

Mae Sarah L Grange yn fardd, gwneuthurwr theatr, artist ac ymchwilydd. Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys Difficult Matter, cyfnod preswyl ac arddangosfa gelf yn y Triangle, yn Deptford am y saer llongau Mary Lacy/William Chandler; Letters of No Moment, prosiect barddoniaeth yn gweithio â lleisiau benywaidd yng nghofnodion y 16eg a’r 17eg ganrif o Uchel Lys y Morlys yn yr Archifau Gwladol; We Elizabethans, cydweithrediad gydag E M Parry ar fwrdd ONCA Barge ar gyfer Brighton Fringe; a A Note to Mary Frith, a gomisiynwyd gan Shakespeare’s Globe ar gyfer Notesto the Forgotten She-Wolves. Enillodd Sarah gystadleuaeth bamffled 2021 Poetry Wales  gyda Bodies and Other Haunted Houses.