
Shannon McAvoy
Mae Shannon McAvoy yn berfformiwr o America sy’n byw yn Llundain. O oedran ifanc, hyfforddodd mewn amrywiaeth o arddulliau dawns, cyn astudio yn The Young Americans College of Performing Arts yng Nghaliffornia. Yna, canolbwyntiodd ar ballet a dawns gyfoes yn Hubbard Street's Lou Conte Dance Studio, Chicago, a theatr gerdd yn Broadway Dance Center’s Professional Semester, Efrog Newydd. Mae gan Shannon ystod eang o brofiad proffesiynol ym myd sioeau cerdd, pantomeimiau, dawnsio cyngerdd, llongau mordaith chwe seren, sioeau amrywiaeth, teledu, ffilm a digwyddiadau corfforaethol.
Mae credydau diweddar yn cynnwys Saul (Glyndebourne Opera), The Little Mermaid a Cinderella (Newcastle Theatre Royal), Graziella West Side Story, Ensemble Mary Poppins, The Evil Stepmother Snow White: Reimagined, Jack and the Beanstalk (Birmingham Hippodrome) a Jingle Bell Christmas (Barbican Theatre).