Cwrdd â WNO

Sian Meinir

Mezzo

Cafodd Sian Meinir ei geni yn Swydd Caer a'i magu yng Ngwynedd. Graddiodd o Brifysgol Bangor a'r Royal Academy of Music gyda Kenneth Bowen.

Cyn iddi ymuno â Chorws WNO yn 2003 roedd hi'n aelod o Gorws y Royal Opera House. Dyfarnwyd Gwobr Susan Chilcott iddi yn 2007. Ymhlith ei huchafbwyntiau yn WNO mae chwarae rhan Margaret yn Wozzeck, Enrichetta yn I Puritani, Annina yn La traviata, Kate Pinkerton yn Madam Butterfly, ac Iseult of the White Hands yn Le Vin herbé.

Y tu allan i WNO, mae Sian yn Fardd Cadeiriol yr Eisteddfod Genedlaethol; yn cyfieithu caneuon i'r Eisteddfod Genedlaethol, yn diwtor llais ac yn Feirniad Cenedlaethol.

Gwaith diweddar: Hen Wraig y Bala ym mhremière byd Wythnos yng Nghymru Fydd (Opra Cymru); taith genedlaethol o'i sioe un fenyw, Dream of Gerontius yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy; Ffatri Llais - gweithdai undydd ledled Cymru.