
Cwrdd â WNO
Sinead D’Abreu-Hayling
Mae'r soprano o dras Trinidadaidd, wedi'i geni ym Mhrydain, Sinead D’Abreu-Hayling, yn astudio BMus Perfformio Lleisiol ar hyn o bryd yn Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru. Mae ei gwaith blaenorol yn cynnwys: rownd derfynol Open Mic UK 2017, rownd derfynol West End Calling 2021 a sawl perfformiad cenedlaethol. Mae hi hefyd wedi canu gyda chôr Lleisiau Academi Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn sioe geffylau Jiwbilî Platinwm Brenhines Elizabeth II. Mae Sinead yn edrych ymlaen yn arw at berfformio yn ei hopera lwyfan broffesiynol gyntaf.