
Syr Simon Keenlyside
Ganwyd Simon Keenlyside yn Llundain ac yn wreiddiol fe astudiodd Swoleg yn Cambridge University. Mae ei repertoire amryddawn wedi’i gymryd i bob tŷ opera pwysig o gwmpas y byd, gan gynnwys y Metropolitan Opera yn Efrog Newydd, y Royal Opera House, Paris Opera, La Scala Milan, Teatro REal Madrid, Zurich Opera House, Salzburg Festival a’r Tai Opera y Wladwriaeth Bafaraidd, Berlin a Fienna. Fel cantor a datgeiniad poblogaidd, mae gan Syr Simon ddisgyddiaeth helaeth ac mae ei wobrau niferus yn dogfennu ei ddylanwad ar y diwydiant cerddoriaeth. Apwyntiwyd yn Gantor Siambr Awstriaidd, yn CBE a chafodd ei urddo’n farchog yn Anrhydeddau’r Frenhines am wasanaethau i Gerddoriaeth.
Mei ei uchafbwyntiau rôl yn cynnwys y rolau teitl Rigoletto, Macbeth, Don Giovanni, Hamlet, Wozzeck, a Germont La traviata, Iago Otello, Ford Falstaff, Posa Don Carlo, Count Almaviva The Marriage of Figaro, Papageno The Magic Flute, Golaud Pelléas et Mélisande, Valentin Faust, Wolfram Tannhäuser, Prospero The Tempest ac Yeletsky Pique Dame. Mae ei rolau debut y dyfodol yn cynnwys rolau teitl Falstaff and Simon Boccanegra.