
Sophie Bevan
Trosolwg
Fe anwyd Sophie Bevan yn Llundain ac astudiodd yn y RoyalCollege of Music. Mae hi’n gweithio’n rheolaidd gyda cherddorfeydd blaenllaw gan ymddangos yng ngwyliau Caeredin, Salzburg, Aldeburgh a Proms y BBC. Fel datgeiniad glodwiw mae wedi perfformio yn nifer o leoliadau mawreddog gan gynnwys y Concertgebouw a Wigmore Hall. Mae ei gwaith opera wedi’i harwain i berfformio sawl rôl arweiniol yn nhai opera sy’n cynnwys Covent Garden, Glyndebourne, WNO, ENO, Teatro Real a’r Metropolitan Opera. Yn 2019, dyfarnwyd MBE iddi am wasanaethau i gerddoriaeth.
Gwaith diweddar: Messiah (Bournemouth Symphony Orchestra), Magnificat (Ryan Wiggleworth/BBC Symphony Orchestra), Seven Deaths of Maria Callas (English National Opera) a Requiem Brahms a Songs of the Auvergne:Book Five gan Canteloube (Royal Philharmonic Orchestra).