Stacey Alleaume
Trosolwg
Graddiodd y soprano Awstralaidd-Mawrisiaidd Stacey Alleaume o’r University of Melbourne a’r Music Academy of the West, Santa Barbara. Fe’i dyfarnwyd ag Ysgoloriaeth Dam Joan Sutherland yr AOAC, sy’n ysgoloriaeth uchel ei pharch, am ddawn operatig Awstralaidd. Mae hi wedi cyflawni gwaith gyda’r Tasmanian Symphony Orchestra, Adelaide Symphony Orchestra a’r Melbourne Symphony Orchestra, yn fwy penodol Symffoni Rhif 3 Nielsen dan arweiniad Syr Andrew Davis. Yn ogystal, ymddangosodd Stacey fel artist gwadd i Andrea Bocelli yn ystod ei daith cyngherddau yn Awstralia yn 2022.
Gwaith diweddar: Amina La Sonnambula (Deutsche Oper am Rhein); Gilda Rigoletto (Bregenzer Festspiele ac Opera Australia); Violetta Valéry La Traviata (Opera Hong Kong, Teatro Petruzzelli ac Opera Australia); Fiorilla Il Turco in Italia, Sophie Werther, Susanna Le Nozze di Figaro, Micaëla Carmen a Léïla The Pearl Fishers (Opera Australia).