Cwrdd â WNO

Steffan Lloyd Owen

Mae’r bariton Steffan Lloyd Owen wedi graddio o Goleg Cerdd Brenhinol y Gogledd. Ef oedd enillydd Cystadleuaeth Opera Paris yn 2025 a Chystadleuaeth Josep Palet yn 2025. Mae llwyddiannau eraill mewn cystadlaethau’n cynnwys Gwobr Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts a Gwobr Goffa Osborne Roberts y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Mae uchafbwyntiau Tymor 26/27 yn cynnwys ei ymddangosiad cyntaf yn Semperoper Dresden fel Sam yn Trouble in Tahiti a dychwelyd i Opernhaus Zürich fel Bello yn Lafanciulla del west, yn ogystal â’r ymddangosiad cyntaf yng Ngŵyl Ryngwladol Caeredin, ENO ac WNO.

Roedd Steffan yn aelod o’r Stiwdio Opera Ryngwladol yn Opernhaus Zürich rhwng 2024 a 2026. Roedd ei rolau’n cynnwys Marullo yn Rigoletto, Silvano yn Un ballo in maschera, Hermann yn Les Contes d’Hoffmann a’r brif ran yn y cynhyrchiad Stiwdio o Gianni Schicchi.

Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys: Ragondin Serch yw’r Doctor (Cerddorfa WNO); Escamillo Le tragédie de Carmen (rôl gyntaf, Gŵyl Buxton); Doctor Macbeth (Opera Canolbarth Cymru); Guglielmo Così fan tutte (Opera Cymru).

Mae ei uchafbwyntiau mewn cyngherddau’n cynnwys: Requiem gan Mozart gyda’r Orchestre National de Bretagne, dan arweiniad Grant Llewelyn; ac Offeren yn C a Choral Fantasy gan Beethoven fel rhan o gyngerdd Cerddorfa Genedlaethol y BBC a Chorws Cymru a Cherddorfa WNO, sy’n ail-greu’r Cyngerdd Benefit hanesyddol a roddwyd gan Beethoven yn Vienna yn 1808.