
Cwrdd â WNO
Susan Bickley
Ystyrir Susan Bickley fel un o'r mezzo-sopranos fwyaf llwyddiannus ei chenhedlaeth, gydag ystod o repertoire yn cwmpasu'r Baroque, rolau dramatig mwyaf y 19eg ac 20fed ganrif, yn ogystal â repertoire cyfoes. Ym mis Mai 2011 derbyniodd y Wobr Canwr fawreddog yng Ngwobrau'r Royal Philharmonic Society, y gydnabyddiaeth uchaf am gerddoriaeth glasurol fyw yn y DU.
Gwaith diweddar: Dido Dido and Aeneas (Handel & Haydn Society, Boston); Quickly Falstaff (The Grange Festival); Eurydice The Myth/Persephone The Mask of Orpheus (ENO); Marfa Ignateva Kabanova Katya Kabanova (Royal Opera House a Teatro dell'Opera di Roma)