
Tal Rosner
Ganed yr artist a’r cyfarwyddwr creadigol, Tal Rosner, yn Jerwsalem, ac mae’n byw yn Llundain. Astudiodd yn Bezalel Academy of Arts and Design yn Jerwsalem, a Central Saint Martin’s College. Mae Tal yn gweithio’n agos â cherddorion, gwneuthurwyr theatr a brandiau ffasiwn, yn cyfuno sawl haen o sain ac elfennau gweledol er mwyn creu gosodiadau fideo a pherfformiadau byw. Yn 2019, aeth ati i greu addasiad newydd o Brothers Lionheart gan Astrid Lingren ar gyfer The Royal Danish Playhouse a chafodd ei gomisiynu i gynllunio a chyd-gyfarwyddo cynhyrchiad newydd o Die Walküre gan Wagner ar gyfer Opéra National de Bordeaux. Mae gwaith dawns a theatr ychwanegol yn cynnwys Everyman a Husbands and Sons (National Theatre); You For Me For You ac X, The Glow (Royal Court); The Most Incredible Thing (Charlotte Ballet, North Carolina); a Les Enfants Terribles (Royal Ballet).
Gwaith diweddar: Dylunio Ainadamar (Scottish Opera, Detroit Opera, WNO); dylunio fideo ar gyfer Serenomi Agor a Seremoni Cloi Gemau'r Gymanwlad 2022 Birmingham (2022); elfen fideo ar gyfer Winterreise (Gran Teatre del Liceu).