Tanya McCallin
Ganwyd Tanya McCallin yng Nghaergrawnt ac astudiodd yn y Central School of Art and Design. Dyluniodd yn helaeth ar gyfer opera a theatr ledled y byd, ac mae ei gwaith cynharaf yn cynnwys dyluniadau ar gyfer The Barber of Seville (ENO). Gweithiodd am y tro cyntaf yn y Royal Opera House yn 2001 ar gynyrchiadau Macbeth (Kirov Opera) a Rigoletto gan David McVicar, gan ddychwelyd yn ddiweddarach i ddylunio The Marriage of Figaro a Carmen. Dyluniodd sawl cynhyrchiad o fri ar y cyd â McVicar, gan gynnwys La Traviata (Scottish Opera, WNO, Geneva, Barcelona a Madrid), Manon (ENO, Houston, New Zealand, Dallas, Barcelona and Chicago), The Turn of the Screw (Mariinsky Theatre, ENO a Madrid), Macbeth (Kirov Opera, The Met & Kennedy Centre) a Les Contes d’Hoffmann (Salzburg Festival) a dyluniodd wisgoedd ar gyfer Der Rosenkavalier (Scottish Opera, Opera North, ENO) a Così fan tutte (Strasbourg, Scottish Opera).
Gwaith diweddar: set a gwisgoedd Sweeney Todd (Theåtre du Chåtelet a San Francisco) a gwisgoedd ar gyfer La Traviata (Bolshoi).