
Themba Mvula
Ganwyd Themba Mvula yn Sambia a chwblhaodd ei hyfforddiant yn y Royal Birmingham Conservatoire, ble enillodd Wobr Cân Saesneg Gordon Clinton.
Yn 2020 canodd ran Frazier yn Porgy and Bess (Theater an der Wien), wedi gweithio fel unawdydd ac aelod o’r ensemble a enillodd Wobr Olivier yn ENO. Mae ei weithiau eraill yn cynnwys: Papageno The Magic Flute Lite a Marullo Rigoletto (Opera North); Schaunard La bohème (ETO); Dancaïre Carmen (Opera Holland Park); Assan The Consul (WNO); Millworker Lady Macbeth of Mtsensk (Birmingham Opera Company); Belcore The Elixir of Love (Theatr King’s Head); a Guglielmo Così fan tutte (Ensemble OrQuesta).
Mae hefyd wedi creu rhannau mewn gweithiau cyfoes, gan gynnwys y brif ran yn Bhekizizwe Robert Fokkens a Mkhululi Mabija. Mae hefyd wedi ymddangos fel Vithobai yn The Life to Come Louis Mander a Stephen Fry (Surrey Opera).
Mae ei waith diweddar yn cynnwys: Magician | Interlocutor Love Life (Opera North), Dom Link in my Bio (Théâtres de la Ville de Luxembourg a Britten Pears Arts); a The Faggots and Their Friends Between Revolutions (Gŵyl Ryngwladol Manceinion, Gŵyl d’Aix-en-Provence a Bregenzer Festspiele, yn teithio i’r Iseldiroedd, yr Almaen ac Efrog Newydd).




