
Thibault Vancraenenbroeck
Yn wreiddiol o Frwsel, hyfforddodd Thibault Vancraenenbroeck yn Fflorens: mae'n creu golygfeydd a gwisgoedd ar gyfer dawns, theatr ac opera. Mae'n aelod gweithgar o gwmni Sturmfrei ac wedi creu senograffiaeth a gwisgoedd ar gyfer L’enfant et les sortilèges a L’heure Espagnole (Ravel), Der Mond (Orff), Snow Queen (Abrahamsen) a L’Étoile (Chabrier) i Grégoire Pont a James Bonas. Creodd ddau osodwaith fideo yn seiliedig ar ysgrifau Maurice Blanchot, Waiting For Oblivion a The Madness Of The Day. Hefyd mae'n arwain prosiect ffotograffiaeth mewn cysylltiad â Grégoire Romefort. Rhwng 2001 a 2008 roedd yn gweithio'n rheolaidd fel darlithydd yn École Supérieure d’Art Dramatique Theatr Genedlaethol Strasbwrg ac fel aelod o'r panel asesu ar gyfer yr Adran Ddylunio Setiau a Gwisgoedd ac yn Adran Wisgoedd yr Academi Frenhinol yn Antwerp.