Trosolwg
Mae'r tenor Thomas Kinch yn Artist Cyswllt ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru 2022, a graddiodd yn ddiweddar o Royal Conservatoire of Scotland. Yn ystod 2021, cymerodd ran fel Artist y Dyfodol yn Dolora Zajick’s Institute for Young Dramatic Voices, lle cafodd weithio gydag athrawon enwog o'r Metropolitan Opera, La Scala, a Deutsch Oper Berlin. Bydd yn dychwelyd i'r sefydliad eto eleni. Roedd hefyd yn Artist Cenhedlaeth Newydd 2021 gydag Iford Arts, a pherfformiodd Canio yn Cavalleria rusticana/I Pagliacci.
Eleni, bydd yn dod yn ôl i Opera Bohemia i berfformio rhan Pinkerton yn Madam Butterfly, ac ym mis Mai bydd yn teithio i Sisili i weithio gyda'r tenor byd-enwog, Salvatore Fisichella.
Ymhlith ei waith diweddar, cafodd berfformio Turiddu yn Cav & Pag gydag Edinburgh Grand Opera, Alfredo yn La traviata a Nadir yn Les Pêcheurs de Perles gydag Opera Bohemia, a Cavaradossi yn Tosca gydag Opera Gogledd Cymru.
Yn ystod ei gyfnod yn astudio yn Ysgol Opera Royal Conservatoire of Scotland, cafodd Thomas berfformio Father Grenville (Dead Man Walking), Gerrardo (Gianni Schicchi), Sam Kaplan (Street Scene) a Satyavan (Savitri). Mae ei ymddangosiadau oratorio a chyngerdd yn cynnwys canu rôl Walter Widdup yn Serenade to Music, Vaughan Williams, a pherfformio RequiemIngemisco, Verdi ar gyfer Gwasanaeth Cenedlaethol Coffáu'r Holocost.