Trosolwg
Dechreuodd Tomáš Hanus ei gyfnod fel Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) yn Hydref 2016 ac ymddangosodd am y tro cyntaf ar y llwyfan cyngerdd gyda Cherddorfa WNO wrth arwain Symffoni Rhif 2 ‘Atgyfodiad’ Mahler yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd. Ers hynny, mae wedi arwain Cerddorfa WNO ym mherfformiadau cyngerdd ac opera ar draws y DU a’r byd, yn fwyaf diweddar yn agoriad y Prague Spring International Music Festival ym mis Mai 2023.
Fe’i ganed yn Brno yn 1970, caiff ei gydnabod bellach yn un o arweinyddion mwyaf cyffrous a blaenllaw’r Weriniaeth Tsiec. Ers dod i amlygrwydd yn ystod Cystadleuaeth Ryngwladol yr Arweinwyr yn Katowice yn 1999, mae wedi arwain mewn tai opera mawr yn Ewrop gan gynnwys y Wiener Staatsoper, Bayerische Staatsoper Munich, Royal Danish Opera, Tŷ Opera Oslo, Teatro Real Madrid a’r Teatro alla Scala. Mae galw am Tomáš hefyd fel arweinydd cerddoriaeth symffonig, ac mae ei waith arweinio gyda cherddorfeydd mawreddog yn cynnwys y London Symphony Orchestra, SWR Symphonieorchester Baden-Baden, Czech Philharmonic, BBC Symphony Orchestra, Deutsches Symphonie-Orchester Berlin a’r Iceland Symphony Orchestra.
Gwnaeth Tomáš ei ymddangosiad operatig cyntaf gydag Opera Cenedlaethol Cymru yn arwain Der Rosenkavalier a Die Fledermaus yn 2017 ac aeth ymlaen i arwain Tymor Rwseg WNO yn ystod Hydref 2017 a gafodd ganmoliaeth fawr. Mae wedi parhau i arwain cynyrchiadau WNO gan gynnwys War and Peace Prokofiev, ac operâu Rossini La Cenerentola a The Barber of Seville. Mae Hanus wedi hyrwyddo gweithiau Leoš Janáček trwy Gylch Janáček WNO, a ddechreuodd yn Nhymor yr Hydref 2019 gyda The Cunning Little Vixen ac a ddaeth i ben gyda The Makropulos Affair a gafodd adolygiad pum seren yn Nhymor yr Hydref 2022, ac yna perfformiad yng Ngŵyl Janáček glodfawr Brno.
Cefnogir rôl Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO gan Marian a Gordon Pell
What’s On StageFe wnaeth [TomášHanus] blethu tapestri cyfoethog o ddanteithion o’r sgôr anhygoel mewn darlleniad o tenutos cywrain, dewisiadau tempo sensitif a chwarae cerddorfaol perffaith
The Guardian....teyrnged angerddol a gwych i Mahler