
Tom Scutt
Mae gwaith Tom fel Dylunydd Setiau, Dylunydd Gwisgoedd a Chyfarwyddwr yn cwmpasu cerddoriaeth fyw, theatr, opera, dawns, ffasiwn ac arddangosfa. Ymhlith ei gydweithredwyr mae Alexander McQueen, Pet Shop Boys, Christine and the Queens, Sam Smith, MTV ac Amgueddfa V&A. Dros y deunaw mlynedd ddiwethaf mae ei ddyluniadau wedi ymddangos ar Broadway a’r West End, yn ogystal ag yn Nhŷ Opera’r Metropolitan, Royal Danish Opera, Greek National Opera, y Tŷ Opera Brenhinol, National Theatre ac RSC, ymhlith eraill.
Mae gwobrau Tom yn cynnwys: Gwobr Olivier am y Dyluniad Set Gorau 2025 ar gyfer Fiddler On The Roof; Gwobr Tony am y Dyluniad Golygfa Gorau mewn Sioe Gerdd 2024 ar gyfer Cabaret (Kit Kat Club, Efrog Newydd); Gwobr yr Evening Standard a Gwobr Critics Circle am y Dyluniad Gorau 2022 ar gyfer Cabaret (Kit Kat Club, Llundain); Gwobr Critics Circle am y Dyluniad Gorau 2019 ar gyfer A Very Expensive Poison. Mae hefyd wedi derbyn sawl enwebiad ar gyfer gwobrau am Ddylunio Gwisgoedd, ynghyd ag enwebiad fel Cyfarwyddwr Gorau 2019 ar gyfer Berberian Sound Studio (Donmar Warehouse).