![Víctor Ramos Veredas Flamenco Dancer](https://d26xc2l5xmkpuu.cloudfront.net/_imager/c5397c85806fff673008232139fb49e7/Victor-Ramos-Veredas-Flamenco-Dancer_9dc49881d222e017dd86feaac3f344ea.jpg)
Victor Ramos Veredas
Ganwyd Víctor Ramos Veredas, sy’n cael ei adnabod fel El Chuli, yn Antequera, Andalusia, ac mae wedi ei leoli ym Marcelona ar hyn o bryd. Hyfforddodd fel pianydd clasurol yn yr Elementary Conservatory of Music yn Antequera a’r Superior Conservatory of Music ym Malaga. Yn ogystal, astudiodd Athroniaeth ym Mhrifysgol Malaga a Choreograffi a Pherfformiad yn y Superior Conservatory of Dance ym Malaga. Mae Victor wedi dawnsio gyda chwmnïau adnabyddus megis y Compañía de danza de Viviana Sanchez a’r cynhyrchiad Barcelona y Flamenco yn y Teatro Poliorama ym Marcelona. Mae wedi perfformio mewn nifer o leoliadau tablao Fflamenco, yn cynnwys Palacio del Flamenco a Tarantos. Mae Victor hefyd wedi dangos ei sgiliau cerddorol ac actio wrth gydweithio â chwmnïau megis Els Comediants a Residual Gurus. Ar hyn o bryd mae’n astudio dawns ar lefel uwch yn Superior Dance Conservatory of Barcelona Institut del Teatre.