Vuvu Mpofu
Astudiodd soprano De Affricanaidd Vuvu Mpofu yn y South African College of Music ym Mhrifysgol Cape Town. Gwobrwywyd Vuvu gyda’r wobr fawreddog John Christie yn y Glyndebourne Festival yn 2019, ac mae hi hefyd yn enillydd yng Nghystadleuaeth Operalia a’r Gystadleuaeth Ganu Hans Gabor Belvedere.
Mae gwaith diweddar Vuvu yn cynnwys ei hymddangosiad cyntaf ar gyfer Washington National Opera fel Gilda Rigoletto; Violetta La traviata (Seattle Opera); Pamina Die Zauberflöte (Staatsoper Stuttgart); Musetta La bohéme (Glyndebourne Festival a’r Vlaamse Oper); Leila Les pêcheurs de perles (Cape Town Opera); Lavinia L’oca del Cairo gan Mozart gyda’r Chamber Orchestra of Europe yn y Mozartwoche yn Salzburg a’i pherfformiadau cyntaf fel Bess yn Breaking the Waves gan Missy Mazzoli a Violetta mewn cynhyrchiad newydd o La traviata ar gyfer Theater St Gallen.