William Stevens
Magwyd y baswr Prydeinig William Stevens yn nhref Keynsham yng Ngwlad yr Haf a chafodd ei brofiad canu proffesiynol cyntaf fel ysgolhaig corawl yn Eglwys Gadeiriol Bryste. Aeth ymlaen wedyn i astudio canu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gyda Donald Maxwell. Ymhlith ei rolau mae Figaro, Bartolo, ac Antonio The Marriage of Figaro; Sarastro a'r Llefarydd The Magic Flute; Leporello a Masetto Don Giovanni; Nick Shadow The Rake’s Progress; Uwcharolygydd Budd Albert Herring; Olin Blitch Susannah; Dulcamara L’elisir d’amore; Syr John Falstaff At The Boar’s Head; a nifer o rolau Gilbert a Sullivan. Mewn cyngerdd, mae ei repertoire yn cynnwys gweithiau mawr gan Handel, Mozart, Haydn, Brahms, a Shostakovich.
Gwaith diweddar: Don Basilio Il barbiere di Siviglia (Opera Caerdydd); Il Commendatore Don Giovanni (Hurn Court Opera); Cumbria Opera Festival; a dirprwyo rolau Hagen Götterdämmerung, Fasolt Das Rheingold, a Colline La bohème (Longborough Festival Opera).