Wojtek Gierlach
Ganwyd Wojtek Gierlach yng Ngwlad Pwyl ac astudiodd yn y Chopin Academy of Music yn Warsaw ac enillodd y Gystadleuaeth Ada Sari yn 1999 yn ogystal â’r drydedd wobr yn y Gystadleuaeth Ganu Ryngwladol Francisco Viñas yn 2004. Mae ef wedi ymddangos gyda phob un o’r prif dai opera a cherddorfeydd yng Ngwlad Pwyl, yn ogystal â nifer yn Ewrop, gan gynnwys y Royal Opera House, Deutsche Oper Berlin, Teatro Nacional de São Carlo Lisbon, Los Angeles Opera, Royal Danish Opera, Deutsche Oper am Rhein, Opera Cenedlaethol Cymru a Theater St Gallen. Mae ei waith yn Teatr Wielki yn Warsaw yn cynnwys Escamillo Carmen, Raimondo Lucia di Lammermoor, Gessler Guillaume Tell a Duce Alfonso Lucrezia Borgia. Mae ei rolau blaenorol ar gyfer WNO yn cynnwys Sparafucile Rigoletto, Rocco Fidelio, Giorgio I puritani ac Alidoro La Cenerentola.
Gwaith diweddar a’r dyfodol: Osmin Die Entführung aus dem Serail (Bilbao Opera), Tortebat Czarna maska a Sarastro Die Zauberflöte (Teatr Wielki), Procida Les vêpres siciliennes (Opera Bergen).