
Cwrdd â WNO
Wyn Pencarreg
Magwyd Wyn Pencarreg yng Ngorllewin Cymru ac astudiodd yn y Royal Northern College of Music. Mae wedi ennill sawl gwobr ac ysgoloriaeth a rhoddwyd iddo’r wobr goffa Erich Vietheer gan Glyndebourne Festival Opera yn 1994. Gwnaeth ei ddebut yn y Royal Opera House yn 2014 fel Fiorello yng nghynhyrchiad Moshe Leiser a Patrice Caurier o Il barbiere di Siviglia a chreodd rôl Lalchand yn The Firework-Maker's Daughter.
Gwaith diweddar: Alcindoro La bohème (ROH); Le Balli Werther, Nazarene Cyntaf Salome (Irish National Opera); Walter Raleigh Roberto Devereux, Barwn Douphol La traviata, Alcade La forza del destino (WNO).