Cwrdd â WNO

Xavier Boyer

Mae arbenigedd Xavier Boyer yn ymestyn o sain i ffotograffiaeth a fideo. Fel peiriannydd sain, mae wedi gweithio mewn tai opera, sef ar gyfer Peter Etvös, Heiner Goebbels, Kahia Saariaho, Thierry Escaich a Pascal Dussapin. Mentrodd i fyd fideo drwy brosiectau opera eraill gyda Gary Hill, Alex Olé, a Grégoire Pont a James Bonas y bu iddo weithio gyda hwy ar gynyrchiadau o Carmen (Lille), L’Enfant et les sortilèges (Lyon, Dresden), L’Heure espagnole a Der Mond (Lyon), Snow Queen (Strasbourg) a Hänsel und Gretel (Cologne). Mae Xavier hefyd yn cynorthwyo Grégoire Pont gyda chyngerdd symffoni wedi’i ddarlunio’n fyw: Our Precious Planet (Canolfan y Barbican /Cerddorfa Symffoni’r BBC; Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Dulyn/Cerddorfa Symffoni Genedlaethol Iwerddon; ac yn fuan Cerddorfa Ffilharmonig Ploiești/Gŵyl Ryngwladol George Enescu).