Yvonne Howard
Fe aned Yvonne yn Stafford ac astudiodd yn y Royal Northern College of Music cyn dod yn aelod o Gorws yn Glyndebourne, lle bu’n unawdydd am dair blynedd. Mae ei gyrfa ryngwladol brysur wedi gweld Yvonne yn gweithio gydag arweinwyr fel Bernard Haitink, Syr Colin Davies, Syr Antonio Pappano, Syr Charles Groves, James Loughran, Syr Simon Rattle a Richard Farnes. Mae Yvonne wedi perfformio’n rheolaidd gydag Opera North, ENO, ROH, Scottish Opera, Garsington ac Opera Holland Park ac mae ei phrif rolau wedi cynnwys Leonora Fidelio (ROH ac Opera Holland Park) a rolau Wagner y Cylch Ring o Fricka, Waltraute, Ail Norn, rhannau’r Falcyri a Sieglinde, y rôl olaf a recordiodd gyda Syr Mark Elder a’r Hallé Orchestra. Mae Yvonne bellach yn cyfuno ei gwaith canu â gwaith fel Athrawes Lleisiol yn yr RNCM.
Gwaith diweddar: Katisha Mikado (ENO); Duges Plaza-Toro The Gondoliers (Scottish Opera); Madame Larina Eugene Onegin a Ludmilla The Bartered Bride (Garsington); Judith Bluebeard’s Castle (Sinfonia of Leeds).