Cwrdd â WNO

Ángel Gabriel Gutiérrez

Mae Ángel Gabriel Gutiérrez yn ddawnsiwr ac yn athro dawns gyfoes a raddiodd o Ysgol Gelf Salta, Yr Ariannin. Mae wedi gweithio fel dawnsiwr ac actor yn yr Malmö Opera yn Sweden, a’r Gran Teatre del Liceu yn Barcelona, yn perfformio mewn llu o gynyrchiadau, fel Die Zauberflöte, Lucia di Lammermoor, Otello, La bohéme a Roméo et Juliette. Mae’n un o sylfaenwyr a dawnswyr presennol Homeland Dance Company. Mae wedi dawnsio ag amrywiaeth o gwmnïoedd dawns yn Yr Ariannin, ac mae hefyd wedi perfformio â Crea Dance Company y coreograffydd o Gatalan, María Rovira, mewn amrywiaeth o gynyrchiadau, gan gynnwys Requiem Mozart, Carmina Burana, Evangelium ac Odysseus.

Gwaith diweddar: dawnsiwr yn Roméo et Juliette (Savonlinna Opera Festival).