Cefnogwch Ainadamar

Bydd WNO yn dod ag opera i chi fel nad ydych erioed wedi’i gweld o’r blaen gyda chynhyrchiad newydd sbon o Ainadamar yn dod i Gaerdydd a’n lleoliadau teithio yn Hydref 2023.

Adrodda Ainadamar stori'r bardd a'r dramodydd enwog o Sbaen, Federico García Lorca, y mae ei hanes am gariad, colled, a marwolaeth annhymig yn dod i'r amlwg trwy atgofion Margarita Xirgu, ei awen a'i ffrind.

Mae plethu amrywiaeth o ddylanwadau gyda’i gilydd o opera i gerddoriaeth werin draddodiadol Andalwsaidd yn arwain at brofiad cerddorol unigryw yn cael ei berfformio gan driawd o gantorion benywaidd eithriadol - Jaquelina Livieri, Hanna Hipp a Julieth Lozano.  Cyfarwyddwr a choreograffydd y darn yw’r enillydd Gwobr Olivier - Deborah Colker a’r arweinydd yw Matthew Kofi Waldren.

Mae’r gefnogaeth rydym yn derbyn yn helpu cynyrchiadau fel Ainadamar i ddod yn fyw ac rydym yn ddiolchgar bod Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, fel rhan o rodd fwy, wedi addo cyfateb yr holl roddion tuag at Ainadamar yn erbyn targed o £40,000. O ganlyniad, bydd gwerth unrhyw rodd a rowch yn cael ei ddyblu.  

O ganlyniad, bydd gwerth unrhyw rodd a rowch yn cael ei ddyblu.  



Os hoffech drafod rhodd dros £1,000 neu gefnogi un o’r rhannau, cysylltwch â Sophie Hughes ar sophie.hughes@wno.org.uk neu 02920 635 083