
Canghennau Cyfeillion WNO
Mae Canghennau Cyfeillion yn trefnu digwyddiadau i godi arian ar gyfer WNO. Mae croeso i bawb fynychu.
Cyfeillion Bryste a De Orllewin Lloegr
Cyswllt: Melanie David | 01934 842014 | melsphotosO@gmail.com
Digwyddiadau yn Ystafell yr Apostol, Eglwys Gadeiriol Clifton. 6:45pm am 7:15pm. Maes parcio pwrpasol ar gael yn Worcester Road oddi ar Pembroke Road.
Cyfeillion Gogledd Cymru
Cyswllt: Roz Jones | 01492 860251 | rozjones@uwclub.net
Cyngherddau Coffi codi arian yn Llandudno yn ystod wythnosau Gwanwyn a Hydref WNO yn Venue Cymru. Bydd y manylion yn ymddangos yn y fan hon ar ôl iddynt gael eu cadarnhau.
Cyfeillion Rhydychen
Cyswllt Bernadette Whittington | 01844 237551 | bwhittington2@btinternet.com
Ymunwch â ni ar y trip hwn i weld perfformiad Opera Cenedlaethol Cymru o opera Benjamin Britten, Peter Grimes. Bydd y bws yn cychwyn o safle Parcio a Theithio Water Eaton. Am fanylion llawn a ffurflen gais, cysylltwch â rosaliemsadler@icloud.com.
Chôr Meibion Rhydychen
Dydd Sadwrn 6 Medi 2025
Cyngerdd ar y cyd â Chyfeillion Opera Cenedlaethol Cymru a Chôr Meibion Rhydychen, gyda’r delynores Zanna Evans yn Neuadd Bentref Bletchingdon, Swydd Rhydychen. Tocynnau’n £20 y pen. Manylion pellach yn cynnwys ffurflen gais am docynnau i ddilyn. Cysylltwch â bwhittington2@btinternet.com am fwy o manylion. Ffurflen cais ar gael isod.
Cyfeillion Abertawe a Gorllewin Cymru
Cyswllt: Jennifer Macleod | 01792 463936 | macleod.jennifer@hotmail.com
Cyngherddau codi arian yn Abertawe gydag amrywiaeth o gerddorion a pherfformwyr gan gynnwys cantorion opera ifanc. Bydd y manylion yn ymddangos yn y fan hon ar ôl iddynt gael eu cadarnhau.
