Cefnogwch gyfres Janáček WNO

Dilynwch Gyfarwyddwr Cerdd WNO, Tomáš Hanus, wrth iddo archwilio ei gariad tuag at y cyfansoddwr Tsiec, Leoš Janáček, drwy dair o'i operâu clasurol yn Nhymhorau'r Hydref 2019, 2020 a 2022.

'Ers yr oeddwn yn ifanc, mae ei gerddoriaeth wastad wedi bod yn agos at fy nghalon. Rhyfeddais pan glywais fod Janáček wedi byw a chyfansoddi dim ond dau floc i ffwrdd o’r tŷ y cefais fy magu ynddo. Yr hyn rwyf yn ei hoffi fwyaf am ei gerddoriaeth yw ei bod yn mynegi bywyd mor ardderchog. Nid yw’n lluniedig nac wedi’i chynllunio’n ofalus, mae’n gerddoriaeth naturiol a hardd ynglŷn â dynoliaeth a realiti natur. Mae’n rymus tu hwnt ond yn dyner hefyd – wastad yn gallu cyffwrdd y gynulleidfa a’r galon.' Tomáš Hanus

Trwy gefnogi’r gyfres hon, byddwch yn darparu gwasanaeth gwych i opera fel genre – gan helpu i adeiladu ar y cysylltiad celfyddydol rhagorol sydd wedi bodoli rhwng WNO a cherddoriaeth Janáček ers llwyfannu’r cylch gwreiddiol o gynyrchiadau mor fentrus dros 40 mlynedd yn ôl.


<% $t(message) %>

Rhoi nawr

£
<% errors.first('amount') %>