
Dewch i Ganu
Mae gwreiddiau Opera Cenedlaethol Cymru yn y gymuned, gydag aelodau’n dod at ei gilydd oherwydd eu cariad at gân. Rydym yn annog pawb i ddod ynghyd i ganu gyda WNO mewn nifer o wahanol leoliadau pan fyddwn yn mynd ag operâu a chyngherddau ar daith, fel arfer (ond nid bob tro) yng nghyntedd y lleoliad cyn y perfformiad. Nid oes angen profiad blaenorol o ganu – dewch draw, canwch a mwynhewch.
Cadwch olwg ar y dudalen hon i gael manylion y digwyddiad Dewch i Ganu nesaf, a sut i gymryd rhan.