Corws Cymunedol Gogledd

Mae aelodau’r gymuned sy’n dod at ei gilydd trwy eu cariad at gân wrth wraidd Opera Cenedlaethol Cymru. Mae Corws Cymunedol WNO yn croesawu cantorion amatur o bob rhan o Gymru a thros y ffin i ddod i gymryd rhan mewn profiadau operatig gyda WNO ac i fod yn rhan o gymuned WNO.

Mae perfformiadau diweddar Gorws Cymunedol y Gogledd WNO yn cynnwys yr opera gyfoes Gymraeg Gair ar Gnawd; Arddangosfa Corau Cymunedol Sing for Pleasure; perfformiad cyntaf Materna Requiem gan Rebecca Dale; a Carmina Creations, cyngerdd clo Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru 2019.

Am fwy o wybodaeth am Gorws Cymunedol Gogledd WNO, cysylltwch â Morgana Warren-Jones.

#WNOcommchorus