
CânSing
Bob blwyddyn, mae WNO mewn partneriaeth â CânSing, yn dod at ei gilydd i greu adnodd operatig rhyngweithiol ar gyfer gwefan CânSing, gan gyflwyno pobl ifanc i Opera a chanu mewn ysgolion a thu hwnt. Mae pob adnodd CânSing / WNO yn ddwyieithog (Saesneg a Chymraeg) ac yn cynnwys caneuon, traciau dysgu, sgoriau, geiriau, taflennu cymorth caneuon a gweithgareddau twymo lan. Gall yr adnoddau CânSing gael ei lanlwytho i fyrddau gwyn rhyngweithiol mewn dosbarthiadau a gallwch gael mynediad drwy ddefnyddio unrhyw gyfrifiadur, trwy’r we neu drwy lawrlwytho. Maent hefyd ar gael i grwpiau canu cymunedol ac i unigolion.
Adnoddau sydd ar gael:
- Can y Toreador o Carmen
- Gweddi Hwyrol o Hansel & Gretel
- Sosban Fach
- Cytgan Hymian o Madam Butterfly
- Sain y Morthwylion o The Barber of Seville
Bob blwyddyn mae Opera Cenedlaethol Cymru (mewn partneriaeth â CânSing), yn gweithio gyda miloedd o ddisgyblion o ysgolion cynradd ac uwchradd sy’n dod at ei gilydd i ganu mewn lleoliadau ar draws Cymru, wedi’i hyrwyddo gan animateurs lleisiol CânSing a WNO.
Ar y rhestr fer ar gyfer Classic FM Music Teacher Award am Best Classical Music Education Initiative 2018

