Her Ddylunio
Mae WNO wedi bod yn gweithio gyda Sgiliau Creadigol a Diwylliannol i greu Her Ddylunio set newydd ar gyfer aelodau o golegau'r Academi Sgiliau Cenedlaethol. Bydd yr her ddylunio set sydd nawr yn ei trydedd flwyddyn, yn annog pobl ifanc i ddefnyddio eu creadigrwydd i ddylunio cysyniad ar gyfer set i’r opera Rigoletto. Bydd dysgwyr o bob disgyblaeth yn cael eu hannog i gymryd rhan er mwyn eu helpu nhw i ddeall sut mae eu sgiliau a’u gwybodaeth yn gallu cael eu defnyddio mewn awyrgyll proffesiynol.
Bydd tri dysgwr yn cael eu dewis o’r rownd gyntaf i adeiladau ei syniad i mewn i flwch set enghreifftiol yn seiliedig ar Lwyfan Donald Gordon yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd.
Beth yw'r Her Ddylunio?
Mae Her Ddylunio Opera Cenedlaethol Cymru yn gyfle i fyfyrwyr yng ngholegau a phrifysgolion yr Academi Sgiliau Cenedlaethol roi eu sgiliau a'u creadigrwydd ar waith mewn tasg dylunio set a osodir gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant sy'n gweithio i Opera Cenedlaethol Cymru.
Ar gyfer pwy?
Mae'r Her Ddylunio ar gyfer myfyrwyr mewn sefydliadau addysg sy'n aelodau o'r Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Sgiliau Creadigol a Diwylliannol a neb arall. Gall ymgeiswyr fod o unrhyw ddisgyblaeth pwnc ac nid oes angen unrhyw wybodaeth na phrofiad blaenorol o ddylunio set na'r theatr arnynt. Yr unig beth sydd angen ei wneud yw dilyn y briff a chreu ymateb.