Dysgu Digidol

Mae ein prosiectau Dysgu Digidol yn cyfuno opera, adrodd straeon, cyfansoddi ac animeiddiad digidol, gan roi disgyblion blwyddyn 5 a 6 y cyfle i fod yn rhan o broses creadigol cyffrous drwy greu ffilm wedi’i animeiddio.   Mae pob animeiddiad Dysgu Digidol yn edrych ar themâu, straeon a cherddoriaeth o opera o dymor cyfredol WNO, gan ysbrydoli disgyblion i ddyfeisio straeon, motifs cerddorol ac animeiddiadau eu hunan. 

Mae 5 ysgol gynradd yn gweithio gyda Chyfansoddwr WNO a thîm animeiddio i greu un stori, gyda’n cyfansoddwr talentog wedyn yn cyfuno syniadau cerddorol y plant i greu sgôr terfynol.  Y canlyniad yw ffilm 7-10 munud mewn hyd wedi’i greu gan dros 120 o ddisgyblion.  Mae’r prosiect yn cysylltu gyda Fframwaith Cymhwysedd Digidol y Cwricwlwm Cenedlaethol, ond hefyd yn datblygu llythrennedd, meddwl critigol, ymwybyddiaeth gymdeithasol a diwylliannol, cyfansoddi a gwaith tîm. 

Rydym wedi cynnal y prosiect yng Nghaerdydd, Merthyr Tudful, Aberystwyth, Bangor, Birmingham a Lerpwl.

Ar hyn o bryd, does dim prosiectau Dysgu Digidol wedi’u cynllunio ar gyfer y dyfodol, ond os hoffwch gael mwy o wybodaeth am gyfleodd gwahanol e-bostiwch schools@wno.org.uk


Gardd o Gerdd

 Ar Fehefin 22, perfformiwyd cerddorfa WNO cyngerdd ‘Clasuron yr Haf’ yn Pontio gyda Rebecca Evans (soprano) a Paul Charles Clarke (tenor). 
 
Fel rhan o’n partneriaeth barhaus a’n cyfnod preswyl yn Pontio, a rhaglen Ieuenctid a Chymuned WNO Gogledd Cymru, mi ddilynodd y gyngerdd gyda thri mis o weithdai drama, cyfansoddi a chyfryngau digidol dan arweiniad tîm creadigol WNO gyda 2 ysgol gynradd leol, Ysgol Gynradd Llanrhug ac Ysgol Gynradd Llanfairpwll. 
 
Y canlyniad ydi’r ffilm yma cafodd ei ddyfeisio gan y disgyblion ar y thema ‘Clasuron yr Haf. Cafodd ‘Gardd o Gerdd’ ei ddangos am y tro cyntaf yn sinema Pontio fel rhan o’n prosiect Dysgu Digidol.


GWRTHRYFEL!

Gweithiodd WNO gyda disgyblion blwyddyn 4/5 a 6 o bum ysgol gynradd ar draws Lerpwl trwy ddefnyddio’r model Dysgu Digidol. Trwy weithio gyda’r cwmni amlgyfrwng Twin Vision a chyfansoddwr preswyl LIPA Paul Mitchell-Davidson, crëwyd ffilm animeiddiedig a sgôr cerddorol gan y disgyblion a oedd yn ymateb i themâu ein hoperâu tymor yr Hydref - Gwrthryfel a Chwyldro, gan ganolbwyntio yn bennaf ar y chwyldro diwydiannol - sydd wrth gwrs â chysylltiadau cryf gyda dinas Lerpwl. Dangoswyd y ffilm yn theatr Liverpool Empire pan roedd WNO ar daith yno.