
Ymarferion Gwisg i ysgolion
Mae ymarfer gwisg ysgolion rhad ac am ddim Opera Cenedlaethol Cymru yn cynnig profiad gwefreiddiol yn yr opera i gynulleidfaoedd ysgolion cynradd a/neu uwchradd.
Ein hymarferion Gwisg i Ysgolion ar gyfer 2025-26 yw Blaze of Glory! Dyma ein cynhyrchiad codi calon sy’n dilyn ffawd grŵp bach o lowyr sy’n mentro ar antur gerddorol drwy ailffurfio eu Côr Meibion a chymryd rhan yn yr Eisteddfod Genedlaethol!
Mae’r cynhyrchiad hwn yn fwyaf addas i ddisgyblion ysgol uwchradd. Mae tocynnau ar gael AM DDIM i grwpiau ysgol.
Lleoliad: Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd
Dyddiad: Dydd Gwener 28 Mawrth 2026
Amser: 12 - 2.30pm
Hyd: 2 awr 25 munud yn cynnwys un egwyl
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu, anfonwch e-bost at schools@wno.org.uk, dyrannir y tocynnau ar sail y cyntaf i’r felin.