Cyngherddau Ysgolion

Camwch i mewn i fyd rhyfeddol opera a cherddoriaeth glasurol gydag Opera Cenedlaethol Cymru.

Nod ein cyngerdd rhad ac am ddim yw ysbrydoli a chynyddu cariad at gerddoriaeth a chreadigedd i ddisgyblion blynyddoedd 3 i 7. Eleni, anogir y gynulleidfa i ddefnyddio ei llais i ganu, agor ei chlustiau i wrando ac ymchwilio i fyd soniarus adar! 

Yn hwyliog, bywiog a difyr, gallwch ddisgwyl caneuon poblogaidd a darnau llai cyfarwydd y byd opera, ffilm a theledu yn dod yn fyw drwy’r Gerddorfa WNO fyd enwog a grŵp o unawdwyr gwefreiddiol. Y cyfle perffaith i glywed, mwynhau a dod i gysylltiad â cherddoriaeth fyw, mewn amgylchedd anffurfiol.
 
Mae ein Cyngherddau Ysgol byw wedi’u dylunio i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru a’r Cwricwlwm Cenedlaethol yn Lloegr a’u helaethu gan becyn adnoddau am ddim i athrawon i’w galluogi i gefnogi dysgu yn y dosbarth cyn ac ar ôl y cyngerdd (ar gael ar-lein o fis Medi 2025).


Tymor yr Hydref 2025

Gwener 26 Medi - Canolfan y Mileniwm Cymru, Caerdydd 12pm
Mercher 1 Hydref - Mayflower Theatre, Southampton 12pm
Iau 9 Hydref - Venue Cymru, Llandudno 12pm
Iau 16 Hyfred - Bristol Hippodrome, Bristol 12pm

Mae'r gyngerdd yma ar gael i archebion grŵp ysgol yn unig. 

Bydd y gyngerdd yn para tua 55 munud, heb egwyl. 


Rydym yn awyddus i glywed eich barn ar ein Cyngerdd Ysgolion. Gallwch lawrlwytho ein tudalen Adolygiad fel y gall eich disgyblion ei chwblhau. 


Am fwy o wybodaeth am ein rhaglen ysgolion, cysylltwch â'n cydlynydd ysgolion, schools@wno.org.uk



Prif Gefnogwr - Prosiectau ac Ymgysylltu