Dosbarthiadau Creadigol

Mae Opera Cenedlaethol Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a National Theatre Wales a gwasanaethau cerddoriaeth lleol yn dod ynghyd i gynnig cyfleoedd DPP i athrawon yn ystod y flwyddyn academaidd 2024-2025. Gan ganolbwyntio ar greadigrwydd ac archwilio ffyrdd o ymgorffori cerddoriaeth yn yr ystafell ddosbarth a sut mae hyn yn cysylltu â’r Cwricwlwm i Gymru, bydd y gyfres yn darparu cymysgedd o sesiynau hygyrch i Athrawon a Chymorthyddion CA1, 2 a 3. DS: Dim ond nifer penodol o gyfranogwyr all ddod i’n sesiynau wyneb yn wyneb. Os byddwn wedi cyrraedd y nifer hwn byddwn yn ychwanegu eich enw at restr aros ac yn cysylltu os daw lleoedd gwag ar gael.

Cliciwch yma i gofrestru.


Creu Cerddoriaeth gyda BBC NOW ac Opera Cenedlaethol Cymru

Dydd Mercher 12 Mawrth 2025 9.30am - 3.30pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Canolfan Mileniwm Cymru

Iaith: Sesiynau ac unrhyw adnoddau yn Saesneg   

Dan arweiniad Samantha Mason a Freya Wynn-Jones, mae’r cwrs yn ystod y dydd hwn ar gyfer athrawon sy’n ansicr ynghylch sut i integreiddio cerddoriaeth i’w hystafell ddosbarth neu sydd angen ysbrydoliaeth i adfywio eu cynlluniau presennol. Drwy gyfres o weithdai, rydym yn archwilio gwahanol ffyrdd o ymgorffori cerddoriaeth a chreadigrwydd yn eich addysgu, o gyflwyno cerddoriaeth i ddatblygu prosiect sy’n seiliedig ar gerddoriaeth a’r celfyddydau. Bydd cyfranogwyr yn gadael gyda gweithgareddau ymarferol i’w cyflwyno yn eu hystafelloedd dosbarth eu hunain a byddant yn deall sut all y rhain gysylltu â’r Cwricwlwm i Gymru. Noder: Os gwnaethoch fynychu’r sesiwn yn 2024 efallai y bydd peth o’r cynnwys yr un fath.

Creu Cerddoriaeth gydag Opera Cenedlaethol Cymru

Dydd Gwener 14 Mawrth 2025 9.30am - 3.30pm

Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru

Iaith: Sesiynau ac unrhyw adnoddau yn Gymraeg

Dan arweiniad Dyfed Wyn Evans a Ffion Glyn, mae’r cwrs dydd Cymraeg hwn ar gyfer athrawon sy’n ansicr ynghylch sut i integreiddio cerddoriaeth a drama i’w hystafell ddosbarth neu sydd angen ysbrydoliaeth i adfywio eu cynlluniau presennol.  Drwy gyfres o weithdai, archwiliwch wahanol ffyrdd o ymgorffori cerddoriaeth a chreadigrwydd yn eich addysgu. Bydd cyfranogwyr yn gadael gyda gweithgareddau ymarferol i’w cyflwyno yn eu hystafelloedd dosbarth eu hunain a byddant yn deall sut all y rhain gysylltu â’r Cwricwlwm i Gymru.

TEAM National Theatre Wales Hystorfa Ddysgu

Rhagfyr 2024 (dyddiad i'w cadarnhau) 

Lleoliad: Caerdydd

Iaith: Gweithdy yn Saesneg. Pecyn adnoddau yn y Gymraeg a'r Saesneg.Dan arweiniad y Cynhyrchydd

Cydweithio Rachel John, bydd y cwrs hwn yn cyflwyno athrawon cynradd i’n Hystorfa Ddysgu Go Tell the Bees a’n pecyn adnoddau.

Mae'r Ystorfa Ddysgu wedi'i chreu i ategu'r Cwricwlwm Cenedlaethol newydd i Gymru a Deddf Llesiant Cenedlaethu'r Dyfodol, a ddatblygwyd gan TEAM National Theatre Wales a chwe ymarferydd creadigol gyda thri athro ymgynghorol.  Trwy gydol y dydd, bydd mynychwyr yn cael eu cyflwyno i'r ystod eang hon o weithgareddau sy'n archwilio ein cysylltiad â byd natur a'n gilydd. Bydd cyfranogwyr yn gadael gyda chopi o’r llyfr Adnoddau Go Tell the Bees a sgiliau i gyflwyno gweithgaredd creadigol yn eu hystafelloedd dosbarth eu hunain. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Racheljohn@nationaltheatrewales.org


Prif Gefnogwr - Prosiectau ac Ymgysylltu