Beyond The Rainbow

Mae'r digwyddiad yma wedi gorffen

Trosolwg

Darn newydd o theatr gerdd sy’n adrodd hanes dau ffoadur a’r teialon sy’n eu hwynebu


Darn newydd o theatr gerdd yw Beyond the Rainbow, sy’n adrodd hanes dau ffoadur a’r teialon sy’n eu hwynebu wrth iddyn nhw awchu i groesi ffiniau i geisio lloches mewn gwahanol wledydd, a’u hymdrech i addasu i’w cymunedau newydd.

Nod y darn yw codi ymwybyddiaeth o’r heriau y mae Ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn eu hwynebu. Gan gloddio i gefndiroedd personol a’r rhesymau a orfododd y cymeriadau i adael eu mamwlad, nod Beyond The Rainbow yw chwalu’r mythau negyddol sy’n aml yn cael eu hailadrodd ynglŷn â ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn y cyfryngau.

Bydd y sioe gerdd yn cynnwys tri chantor a’r Zim Voices, a bydd y gerddoriaeth yn adlewyrchu naws gerddorol y gwledydd maen nhw’n teithio drwyddo. Drwy Beyond the Rainbow, mae Opera Cenedlaethol Cymru yn parhau i gefnogi aelodau’r tîm i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu, cyfarwyddo, cynhyrchu, actio a chanu trwy gydol y prosiect.

#WNOrainbow


Mewn cydweithrediad â Gŵyl Theatr Awyr Agored Caerdydd: Everyman 20

Cefnogir gan Darkley Trust

Lleoliadau a Thocynnau