Il trittico Puccini
–Trosolwg
Mae'r pethau gorau yn dod mewn tri
Paratowch eich hun ar gyfer daith fythgofiadwy o emosiynau uchel, drama ddwys a chomedi du gyda thriawd o operâu un act Puccini, Il trittico. Mae Il tabarro (Y Clogyn) yn craffu ar briodas anhapus gyda chanlyniadau milain tra bod Suor Angelica (Y Chwaer Angelica) yn dilyn aberth lleian a’i hiraeth am ei theulu ar ôl iddi gael ei hanfon i’r lleiandy i edifarhau am ei phechodau. Mae Gianni Schicchi yn llawn twyll a thrachwant wrth i deulu ddadlau am ewyllys coll.
Mae’r wledd operatig tri chwrs hon yn cynnwys cerddoriaeth wych, megis yr aria boblogaidd O mio babbino caro ac elfennau sy’n ategu ac yn cyferbynnu. Wedi’i gyfarwyddo gan y cyfarwyddwr rhyngwladol enwog, Syr David McVicar (La traviata gan WNO), bydd Il trittico yn cynnig cyfle prin i fwynhau’r tair opera mewn un noson fel y bwriadodd Puccini.
Lluniau trwy garedigrwydd Scottish Opera
Order a programme Haf
Archebu rhaglen Hydref
Wedi'i gefnogi gan Barterniaid WNO.
Mae cynyrchiadau a chomisiunau newydd WNO yn cael eu cefnogi gan y John Ellerman Foundation. Daw cefnogaeth cynhrychu arweiniol gan Colwinston Charitable Trust. Cefnogir gan Dunard Fund a Rhoddwyr WNO.
Defnyddiol i wybod
Tua phedair awr gyda dwy egwyl.
Cenir yn Eidaleg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg.
Cynigion ar gael i bobl o dan 16 mlwydd oed
£5 pan fyddant gydag oedolyn â thocyn pris llawn (yn ddibynnol ar argaeledd)
Cyd-gynhyrchiad â Scottish Opera
Yn ymuno â ni yng Nghaerdydd?
Manteisiwch ar 20% oddi ar lety a chynigion bwyd cyn sioe gan ein partner gwesty dewisol, Future Inns
*gan eithrio 18 Mehefin