Life on Our Planet mewn Cyngerdd
Mae'r digwyddiad yma wedi gorffenTrosolwg
Dyma gyngerdd ‘ymgolli’ newydd am hanes naturiol gan esk film, ar y cyd â Netflix a Silverback Films. Mae Life on Our Planet in Concert gan Netflix yn cyflwyno uchafbwyntiau’r gyfres ochr yn ochr â thrac sain byw a chwaraeir gan Gerddorfa WNO.
Crëwyd Life on Our Planet, sy’n gyfres arloesol newydd ag iddi wyth rhan, gan Silverback Films ar y cyd â chwmni Steven Spielberg, Amblin Television. Morgan Freeman, enillydd Academy Award®, sy’n adrodd hanes brwydr epig bywyd i oresgyn a goroesi ar y Ddaear. Gyda Cherddorfa WNO yn cyfeilio, caiff cynulleidfaoedd weld stori bywyd yn cael ei datgelu drwy’i adegau mwyaf tyngedfennol – o fywyd cynnar ar ffurf un gell i’r anifeiliaid cyntaf yn symud o’r môr i’r tir, a’r creaduriaid cyntaf i hedfan.
Synopsis
Dyma gyngerdd ‘ymgolli’ newydd am hanes naturiol gan esk film, ar y cyd â Netflix a Silverback Films. Mae Life on Our Planet in Concert gan Netflix yn cyflwyno uchafbwyntiau’r gyfres ochr yn ochr â thrac sain byw a chwaraeir gan Gerddorfa WNO.
Crëwyd Life on Our Planet, sy’n gyfres arloesol newydd ag iddi wyth rhan, gan Silverback Films ar y cyd â chwmni Steven Spielberg, Amblin Television. Morgan Freeman, enillydd Academy Award®, sy’n adrodd hanes brwydr epig bywyd i oresgyn a goroesi ar y Ddaear. Er bod 20 miliwn o rywogaethau ar ein planed heddiw, dim ond cipolwg ar gyfnod a gawn – collwyd 99% o breswylwyr y ddaear i’n gorffennol dwfn.
Mae’r gyfres wedi’i seilio ar y pum difodiant mawr sydd wedi siapio’r blaned am byth – a’r chweched sy’n ein hwynebu ni heddiw. Daw’r gyfres â chreaduriaid yn fyw – creaduriaid y gwyddom amdanynt o’u ffosiliau yn unig – a hynny mewn ffordd ddramatig a ffotoreal. Cyflwynir y golygfeydd trawiadol hyn ochr yn ochr â dilyniannau arloesol o hanes naturiol. Dangosir y manteision esblygiadol unigryw y mae rhywogaethau modern wedi’u hetifeddu gan eu hynafiaid mewn ffyrdd nas gwelwyd erioed o’r blaen.
Gyda Cherddorfa WNO yn cyfeilio, caiff cynulleidfaoedd weld stori bywyd yn cael ei datgelu drwy’i adegau mwyaf tyngedfennol – o fywyd cynnar ar ffurf un gell i’r anifeiliaid cyntaf yn symud o’r môr i’r tir, a’r creaduriaid cyntaf i hedfan. Cawn weld y deinosoriaid eto, un o’r llinachau sydd wedi byw hiraf ar y Ddaear. Bydd y gwylwyr yn dyst i’r cwymp trychinebus a arweiniodd at oes y mamaliaid a dyfodiad yr anifail peryclaf a welodd y byd erioed: ni.
Olrheinir ein llinach ar draws y daith epig hon. Mae Life on Our Planet yn tanlinellu ein statws unigryw ni – yr unig rywogaeth mewn pedair biliwn o flynyddoedd ar y blaned, fel yr ydym yn ei hadnabod, sy’n deall yr hyn sy’n digwydd i’n byd a sut mae angen gweithredu. Wedi’r cyfan, yr hyn mae’r gorffennol wedi’i ddangos i ni yw bod bywyd bob tro yn ffeindio ffordd.