

Ocean in Concert
Trosolwg
Mae Ocean in Concert yn brofiad byw gwefreiddiol sy’n dathlu rhyfeddodau ein planed las.
Wedi’i adrodd ar ffilm gan Syr David Attenborough i gyfeiliant cerddorfa symffoni lawn, mae’r cynhyrchiad yn cyfuno sinematograffi trawiadol gyda sgôr llawn emosiwn gan y cyfansoddwr a’r enillydd Gwobr Academi Steven Price (Gravity) a berfformir gan Gerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru dan arweiniad Robert Ziegler.
Mae cynulleidfaoedd yn cael eu trochi ym mhrydferthwch a drama riffiau cwrel, coedwigoedd gwymon, a’r môr agored, gydag Attenborough yn ein tywys ni drwy olygfeydd ysblennydd o fywyd o dan y don yn ogystal â difrifoldeb yr heriau sy’n eu hwynebu. Gan gydbwyso syfrdan â symud, mae’r cyngerdd sinematig hwn yn dadlennu bregusrwydd a gwydnwch y môr a’r posibilrwydd o adnewyddiad - gyda chynulleidfaoedd wedi’u hysbrydoli gan y neges bod adferiad yn bosibl a bod gobaith ar y gorwel.