Cyngherddau Ysgolion
Mae'r digwyddiad yma wedi gorffenTrosolwg
Opera Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno Cyngherddau Ysgolion AM DDIM.
Mae cyngherddau ysgolion Opera Cenedlaethol Cymru ar gyfer myfyrwyr Cyfnod Allweddol 2, ac maent yn gyfle i blant brofi cyngerdd cerddorfaol - yn fyw!
Mae’n ffordd gwych o gyflwyno plant ysgolion cynradd i opera a cherddoriaeth glasurol, wrth i Gerddorfa WNO eich tywys drwy ddetholiad o ffefrynnau poblogaidd o fyd opera, ffilm a theledu.
Efallai mai’r digwyddiadau hyn fydd y tro cyntaf i rai plant ymweld â’r theatr i wrando ar gerddorfa byw, sy’n brofiad cerddorol newydd, arbennig ac ysbrydoledig iddynt.
Mae hwn yn gyngerdd diddorol ac anffurfiol, ac yn ffordd berffaith i bobl ifanc ddysgu am gerddoriaeth glasurol, canu gyda’r gerddorfa a gweld y gwaith sydd ynghlwm â chreu opera.
Mae’r cyngerdd hwn ar gael ar gyfer archebion a wneir ar gyfer grwpiau mewn ysgolion YN UNIG.
Defnyddiol i wybod
Bydd y gyngerdd yn para tua un awr