

Seiniau'r Nadolig Corws WNO
Trosolwg
Camwch i mewn i’r spiegeltent hudolus yng Ngerddi Sophia ac ymuno â Chorws byd enwog Opera Cenedlaethol Cymru am noson sydd wirioneddol yn cyfleu ysbryd y Nadolig.
Yn y lleoliad diddos hwn, lle mae pob sedd yn teimlo fel y rhes flaen, cewch eich swyno gan raglen Nadoligaidd o glasuron oesol, ffefrynnau Cymreig, a chorysau opera bendigedig, oll dan gyfarwyddyd Meistr Corws y WNO, Frederick Brown.
Cewch brofi pŵer cyffrous corws Hallelujah! Handel, yr angerdd o adegau enwog opera fel La traviata a Carmen, a harddwch Fantasia on Christmas Carols Vaughan Williams. Ochr yn ochr â’r trysorau hyn, bydd Corws WNO yn dathlu traddodiad corawl cyfoethog Cymru gyda charolau traddodiadol fel Hwiangerdd Mair (Suai’r Gwynt), Tua Bethlem Dref ac Ar Gyfer Heddiw’r Bore.
P’un a ydych yn hoff o opera, carolau, neu’n awyddus i brofi ysbryd y Nadolig, mae’r cyngerdd calonogol hwn yn addo noson wirioneddol fythgofiadwy o gerddoriaeth a llawenydd.
Ymunwch â ni am gyngerdd sy’n cyfleu gwir seiniau’r Nadolig.

Defnyddiol i wybod
Rhan o Ŵyl Nadolig Caerdydd, Gerddi Sophia