Il trittico mewn Cyngerdd Puccini
Mae'r digwyddiad yma wedi gorffenTrosolwg
Mae'r pethau gorau yn dod mewn tri
Paratowch eich hun ar gyfer daith fythgofiadwy o emosiynau uchel, drama ddwys a chomedi du gyda thriawd o operâu un act Puccini, Il trittico. Am un noson yn unig mae'r perfformiad cyngerdd yma’n dod â chantorion gwadd gwych ynghyd â Chorws a Cherddorfa ryngwladol enwog WNO am noson wirioneddol arbennig yn y New Theatre Oxford.
Mae Il tabarro (Y Clogyn) yn craffu ar briodas anhapus gyda chanlyniadau milain tra bod Suor Angelica (Y Chwaer Angelica) yn dilyn aberth lleian a’i hiraeth am ei theulu ar ôl iddi gael ei hanfon i’r lleiandy i edifarhau am ei phechodau. Mae Gianni Schicchi yn llawn twyll a thrachwant wrth i deulu ddadlau am ewyllys coll.
Mae’r wledd operatig tri chwrs hon yn cynnwys cerddoriaeth wych, megis yr aria boblogaidd O mio babbino caro ac elfennau sy’n ategu ac yn cyferbynnu. Mwynhewch noson ryfeddol lle mae emosiynau'n codi a hud campweithiau Puccini yn dod yn fyw ar y llwyfan gyngerdd.
Archebu rhaglen
Cefnogaeth cynhyrchu arweiniol gan Colwinston Charitable Trust. Tymor 2024/2025 wedi'i gefnogi gan Dunard Fund.
Defnyddiol i wybod
Hyd y perfformiad tua thair awr a 35 munud gan gynnwys dwy egwyl
Cenir yn Eidaleg, gydag uwchdeitlau Saesneg.
O dan 16 mlwydd oed
£10 pan fyddant gydag oedolyn â thocyn pris llawn (yn ddibynnol ar argaeledd)
Synopsis
Crynodeb – Il tabarro
Lleoliad: ar lannau'r afon Seine, Paris
Mae perchennog y cwch, Michele a'i griw yn dadlwytho eu cargo ar ôl diwrnod hir o waith. Mae Giorgetta, gwraig Michele, yn gwobrwyo'r gweithwyr â gwin. Mae'r gweithwyr a Giorgetta yn dawnsio i gerddoriaeth chwaraewr organ sy'n mynd heibio, gyda Giorgetta a Luigi yn ymddatod pan ddaw Michele allan o'r caban.
Mae Giorgetta yn gofyn i'w gŵr os ydyn nhw'n dal am fynd i deithio i chwilio am waith, ac a fydd eu criw yn dod gyda nhw. Dyw Michele ddim yn siŵr am Luigi ond mae'n penderfynu ei gadw ymlaen fel gweithiwr. Mae tensiwn rhwng y gŵr a gwraig yn islais i hoffter y ddau at ei gilydd. Mae gwerthwr caneuon yn diddanu y gwniyddesau yn y pellter. Mae Michele yn gadael i gerdded ar hyd y cei.
Mae La Frugola yn galw heibio i chwilio am ei gŵr Talpa; mae'n dangos ei thrysorau i Giorgetta ar ôl diwrnod o hel ac yn rhoi pryd o dafod i Tinca am yfed. Mae Luigi yn galarnadu am ei fywyd caled. Mae pawb yn dechrau hel am adref am y noson. Mae Michele yn dychwelyd, gan ofyn i Luigi ei helpu gyda gwaith y diwrnod canlynol. Mae Giorgetta a Luigi yn hel atgofion am eu hieuenctid yn y ddinas, lle cawsant eu magu yn yr un gymdogaeth – a bron ag ymgolli’n llwyr yn eu brwdfrydedd. Mae Giorgetta yn annog ei chariad i fod yn ofalus.
Mae Luigi yn gofyn i Michele fynd ag ef i Rouen a'i adael i ddod o hyd i waith. Mae Michele yn gwrthod, gan ddweud nad oes gwaith da yno. Cyn gynted ag y bydd Michele yn mynd i mewn i'r caban mae Giorgetta yn rhuthro at Luigi, i’w holi pam y gofynnodd am gael gadael. Mae Luigi yn ateb na all ddioddef ei gweld hi'n briod â rhywun arall. Mae'r cariadon yn cynllunio cwrdd yn ddiweddarach y noson honno, gyda Giorgetta yn tanio matsien fel arwydd. Mae Luigi yn gadael.
Daw Michele yn ôl. Mae'n hel atgofion gyda Giorgetta am fywyd cyn i'w babi farw, pan oed yn gallu gwarchod ei deulu cyfan o dan ei fantell. Mae Giorgetta yn ceisio tawelu ei bryder, cyn mynd i orffwys yn y cwch. Mae dau gariad ifanc yn mynd heibio. Ar ei ben ei hun, mae Michele yn ystyried sut mae eu bywydau wedi newid cymaint. Mae'n tanio matsien ar gyfer ei getyn. Mae Luigi, gan feddwl mai arwydd gan Giorgetta yw hyn, yn agosáu at y cwch. Mae Michele yn herio Luigi; ar ôl ei orfodi i gyffesu ei berthynas, mae Michele yn lladd Luigi ac yn cuddio'r corff dan ei fantell.
Daw Giorgetta yn ôl, gan ymddiheuro am eu dadl. Mae Michele yn aros iddi ddod ato cyn datgelu ei chariad marw.
Crynodeb – Suor Angelica
Lleoliad: lleiandy
Ar ôl prynhawn o weddïau a thasgau, mae'r lleianod yn ymgynnull. Mae'r Chwaer Fonitor yn rhoi pryd o dafod i ddwy newydd am beidio â chynnig penyd wrth gyrraedd yn hwyr i'r capel. Wrth i'r lleianod ymlacio cyn dyletswyddau'r nos, maen nhw'n sylwi bod lliw’r haul yn machlud wedi troi'r dŵr yn eu ffynnon yn euraidd. Maen nhw'n cofio'r Chwaer Bianca Rosa fu farw flwyddyn ynghynt; mae'r chwaer Genovieffa yn awgrymu eu bod yn tywallt rhywfaint o'r dŵr euraidd ar ei bedd.
Mae’r siarad yn troi at ddymuniadau'r lleianod. Mae Genovieffa - cyn-fugail - yn dymuno gweld ŵyn bach eto. Mae’r Chwaer Dolcina eisiau rhywbeth da i'w fwyta. Mae Angelica yn bendant nad yw hi’n dymuno dim. Heb oedi, mae'r lleianod yn dechrau hel clecs – maen nhw'n gwybod bod Angelica wedi cael ei hanfon i'r lleiandy gan ei theulu cyfoethog saith mlynedd yn ôl, ac mae'n ymddangos iddi gael ei gorfodi i dyngu ei llw yn gosb am drosedd heb ei datgelu. Nid yw Angelica wedi clywed ganddyn nhw ers hynny.
Mae Chwaer yr Ysbyty yn gofyn i Angelica, iachawr y lleiandy, greu moddion ar gyfer pigiadau cacwn y Chwaer Chiara. Mae parsel yn cyrraedd, ynghyd â newyddion am gar crand yn aros y tu allan i'r gatiau. Mae Angelica yn cynhyrfu ar unwaith ac yn mynnu gwybod pwy sydd yno. Mae'r Abades yn annog Angelica i ymdawelu cyn daw’r ymwelydd i mewn – modryb Angelica, y Dywysoges, a'i magodd hi a'i chwaer ar ôl marwolaeth eu rhieni.
Mae'r Dywysoges yn esbonio bod chwaer Angelica ar fin priodi a rhaid i Angelica drosglwyddo ei hawl i'r etifeddiaeth cyn y gellir cynnal y briodas. Mae Angelica yn ateb ei bod wedi gofyn i'r Forwyn Fair faddau ei phechodau, ond ni all hi gynnig popeth i Dduw – yn bwysicaf oll, ni all anghofio ei mab, plentyn siawns, a gymerwyd oddi wrthi pan gafodd ei hanfon i'r lleiandy. Mae hi'n gofyn i'w modryb am newyddion amdano. Mae'r Dywysoges yn gwrthod ateb i ddechrau ac yna'n datgelu bod y plentyn wedi marw o’r dwymyn ddwy flynedd ynghynt. Mae Angelica yn syrthio i’r llawr gan wylo ac mae’n llofnodi’r ddogfen. Mae'r Dywysoges yn gadael heb air.
Mae Angelica yn galaru am ei mab, ac wedi’i llethu gan y ffaith na allai ei gysuro wrth iddo farw. Mae hi'n credu bod ei mab yn galw arni o blith yr angylion. Wrth dyngu i'w gyfarfod ym mharadwys, mae hi'n gwneud gwenwyn o'i pherlysiau i’w hun. Cyn gynted ag y mae’n yfed y gwenwyn, mae hi'n cael ei tharo ag arswyd ac yn sylweddoli y bydd hi'n cael ei chondemnio i uffern gan ei hunanladdiad. Mae hi'n erfyn ar y Forwyn Fair am drugaredd, ac – wrth i'r lleianod weddïo yn y capel – mae hi'n gweld gweledigaeth o'i mab.
Crynodeb – Gianni Schicchi
Lleoliad: Tŷ Buoso Donati, Fflorens
Mae Buoso Donati newydd farw. Mae ei berthnasau yn ymgynnull ar erchwyn ei wely, i ddangos eu parch, ond mae eu llygaid i gyd ar gynnwys ei ewyllys. Mae si y bwriadodd Buoso adael ei holl gyfoeth i fynachlog yn arwain at helfa wyllt. Mae Rinuccio yn dod o hyd i'r ewyllys ond yn ei dal o gyrraedd pawb nes i Zita roi ei bendith iddo briodi Lauretta, merch Gianni Schicchi. Mae Zita yn cytuno, mae Rinuccio yn anfon Gherardino i ddod â Gianni a Lauretta, ac mae Zita yn agor yr ewyllys.
Mae'r perthnasau wedi’u dychryn a’u siomi’n enbyd o ddarllen bod Buoso yn wir wedi gadael ei ffortiwn i'r fynachlog. Mae Rinuccio yn awgrymu y gallai Gianni achub y teulu. Mae Gianni yn cyrraedd, yn deall y sefyllfa ond yn tyngu i beidio â helpu ar ôl Zita ei sarhau. Mae Lauretta yn ymbil arno i newid ei feddwl. Dan deimlad - a gan weld cyfle - mae Gianni yn anfon ei ferch allan fel na fydd hi'n gwybod beth yw ei gynllun. Mae'n cadarnhau nad oes neb tu allan yn gwybod bod Buoso wedi marw. Mae'r grŵp yn symud y corff pan mae Spinelloccio yn curo; mae Gianni yn neidio i'r gwely ac yn cuddio, gan ddweud wrth y meddyg bod 'Buoso' yn teimlo'n llawer gwell. Gan dyngu na fu i’r un person sâl erioed farw dan ei ofal, mae Spinelloccio yn gadael.
Mae Gianni yn datgelu ei gynllun. Mae'r grŵp wedi argyhoeddi Spinelloccio fod Buoso yn dal yn fyw; felly, bydd Gianni yn dynwared Buoso a chreu ewyllys newydd gyda notari. Mae pawb wrth eu bodd ac yn dechrau rhestru eu dymuniadau wrth Gianni. Y mwyaf poblogaidd yw'r mul, y tŷ, a'r melinau yn Signa. Yn sydyn mae cloch angladdol yn canu; i'w rhyddhad, mae'n canu am farwolaeth gwas cymydog. Ni all y perthnasau benderfynu ar gais pwy sydd gryfaf ar gyfer y mul, y tŷ a'r melinau felly maent yn cytuno i adael i Gianni benderfynu. Cyn cymryd ei le, mae Gianni yn rhoi rhybudd enbyd: y gosb am ffugio ewyllys yw colli eich llaw ac alltudiaeth ar unwaith.
Mae'r notari yn cyrraedd ac mae 'Buoso' yn datgan bod 'ei' ewyllys flaenorol yn ddi-rym. Mae'n dechrau drwy ddyrannu cymynroddion bychain i'r perthnasau a gasglwyd. Pan mae’n cyrraedd y mul, y tŷ a'r melinau, mae'n eu gadael i gyd i'w 'ffrind mynwesol Gianni Schicchi'. Mae'r perthnasau yn gandryll ond ni allant ddweud dim. Pan fydd y notari yn gadael, mae'r perthnasau yn ysbeilio'r hyn y gallant ei gario ac mae Gianni yn hel pawb allan o'r hyn sydd bellach yn dŷ iddo fe. Mae Lauretta a Rinuccio yn canu am eu cariad. Dan deimlad gan hapusrwydd ei ferch, mae Gianni yn troi at y gynulleidfa ac yn gofyn iddynt gytuno mai sicrhau dyfodol y pâr ifanc yw'r defnydd gorau posibl o gyfoeth Buoso.