Field
Archived: 2015/2016Trosolwg
Roedd Field, yn osodiad cyhoeddus ac yn gofeb ar raddfa fawr i 923 o Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a fu farw ym Mrwydr y Somme yn ystod y RB1 ac sydd heb fedd hysbys. Roedd y 923 o oleuadau sensitif i symudiad yn cynrychioli'r nifer fawr o'r Ffiwsilwyr a fu farw, ac sydd a’u henwau wedi’u harsgrifio ar gofeb Thiepval yn Ffrainc. Byddai rhai o'r dynion hyn wedi gwasanaethu gydag awdur In Parenthesis, David Jones, yn ystod y frwydr ym Mametz ym mis Gorffennaf 1916. Roedd y gosodiad yn agored bob dydd am chwe wythnos a denwyd 52,000 o ymwelwyr.
Roedd Field yn gyd-greuadigaeth gan Opera Cenedlaethol Cymru a Squid Soup i gyd-fynd â pherfformiad cyntaf o Opera WNO, In Parenthesis.
Gwobrau:
Canmoliaeth uchel gan wobrau digidol Cymru ar-lein 2017
Beautiful exhibit, best seen at dusk, very striking and thought provoking
Simply beautiful. What a tribute to those men that gave their lives for us
Very touching tribute