Kommilitonen! Sir Peter Maxwell Davies
Archived: 2016/2017Trosolwg
Cerddoriaeth gan Syr Peter Maxwell Davies
Libreto gan David Pountney
Perfformir gan Opera Ieuenctid WNO
Kommilitonen!, opera i bobl ifainc am bobl ifainc, yw’r cynhyrchiad diweddaraf gan Opera Ieuenctid WNO yn dilyn Paul Bunyan a enillodd wobr RPS yn 2013. Mae pob cynhyrchiad gan Opera Ieuenctid WNO yn rhoi cyfle i’r perfformwyr, cerddorion a thechnegwyr mwyaf sy’n dod i’r amlwg fod yn ganolbwynt. Byddant yn elwa o gymorth ac arbenigedd y cwmni opera safonol hwn.
Mae Kommilitonen! yn cydblethu tair stori am chwyldro myfyrwyr yn yr 20fed ganrif – Chwyldro Diwylliannol Tsieina; y Mudiad Hawliau Sifil yn yr UDA; a symudiad y Rhosyn Gwyn yn yr Almaen Natsiaidd. Daw’r tair stori at ei gilydd ar ddiwedd yr opera, gan leoli’r weithred rhwng y presennol a’r gorffennol, ac ennyn gormes tair system wleidyddol y mae’r opera yn edrych arnynt.
Gydag opera am chwyldro, mae’n bwysig nad ydym ond yn eistedd yn oddefol yn ein seddi, ond teimlo’n rhan o’r weithred. Mae cynhyrchiad promenâd Polly Graham yn ymaflyd ar y syniad hwn trwy roi’r gynulleidfa wrth galon y storïau hyn. Mae’n cyfuno tafluniadau gweledol arloesol gyda set ysblennydd gan drawsnewid Barry Memo i reng flaen cythrwfl yr 20fed ganrif.