Magic Butterfly

Archived: 2017/2018

Trosolwg

Yn Haf 2017 defnyddion ni dechnoleg rithwir (VR) i fynd â chynulleidfaoedd i mewn i ddau gynhyrchiad poblogaidd, Madam Butterfly a The Magic Flute. Gwnaeth y comisiwn ysbrydoli a chyffroi cenhedlaeth newydd o gynulleidfaoedd theatr ac opera drwy gyfuno cerddoriaeth, celfyddyd a thechnoleg. Cafodd cynulleidfaoedd eu swyno gan un o hoff arwresau opera, Cio Cio San gyda pherfformiad ecsgliwsif o 'One Fine Day' a’r cyfle i ryngweithio gyda ffrindiau pedair-coes yn ystod perfformiad o 'How Soft, How Strong Your Magic Sound’ '. Mynychwyd y profiad gan dros 12,000 o ymwelwyr a theithiodd mewn cynhwysydd llongau a adeiladwyd yn bwrpasol i’r prosiect a gychwynnodd ar ei daith yng Nghaerdydd cyn ymweld â Llandudno, Birmingham, Liverpool, Llundain, Hong Kong, Copenhagen a Dubai.  

Roedd Magic Butterfly yn gyd-greuadigaeth gan Opera Cenedlaethol Cymru a REWIND VR.

Loved the experience, brilliant way to combine old tradition with new technology

Mae Magic Butterfly yn brosiect gwobrwy, gyda REWIND VR yn ennill dwy wobr yn y VR Expo Awards – Gwobr Treftadaeth a Hamdden Droch a Wobr Celf Drochi – ynghyd â Gwobr Aur ar gyfer Technoleg Greadigol yn y Field Marketing BE Connected Awards cyntaf erioed.

It was INCREDIBLE! Truly fantastic!

What a fantastic way to introduce opera



Cefnogwyd y profiad Madam Butterfly yn wreiddiol gan Sasakawa Foundation

Made by REWIND VR

Lleoliadau a Thocynnau