Brundibár Krása
Archived: 2018/2019Trosolwg
Berfformia gan Opera Ieuenctid WNO (oedran 10-18) yn ogystal ag artistiaid gwadd
Opera i blant yw Brundibár (cacynen) gan y cyfansoddwr Tsiecaidd Iddewig, Hans Krása, a’r libretwr, Adolf Hoffmeister a gyfansoddodd yr opera ym 1938.
Dechreuodd ymarferion ym 1941 mewn cartref plant amddifad Iddewig ym Mhrague, a wasanaethai fel cyfleuster addysgol dros dro i blant a oedd wedi cael eu gwahanu oddi wrth eu rhieni gan ryfel. Yn ystod gaeaf 1942, perfformiwyd yr opera am y tro cyntaf yn y cartref plant amddifad: erbyn hynny, roedd y cyfansoddwr Krása a’r dylunydd set František Zelenka wedi cael eu hanfon i wersyll crynhoi Theresienstadt.
Erbyn mis Gorffennaf 1943, roedd bron i holl blant y corws gwreiddiol a staff y cartref plant amddifad wedi cael eu hanfon i Theresienstadt. Wedi ailuno â’r cast yn y gwersyll crynhoi, ailstrwythurodd Krása sgôr yr opera i gyd ac ar 23 Medi 1943, perfformiwyd Brundibár am y tro cyntaf yn Theresienstadt. Perfformiwyd y cynhyrchiad 55 o weithiau’r flwyddyn ddilynol.
Bydd y cynhyrchiad newydd hwn wedi ei lwyfannu’n llawn yn cael ei berfformio gan Opera Ieuenctid WNO (oedran 10-18), yn ogystal ag artistiaid gwadd dan arweiniad Cyfarwyddwr Cerdd WNO Tomáš Hanus, yr oedd ei fam yn rhan o’r perfformiadau gwreiddiol. Bydd yr opera yn cael ei chyfarwyddo gan David Pountney yn ei dymor olaf fel Cyfarwyddwr Artistig WNO.
Cefnogir gan David Seligman ac er cof am Philippa Seligman
The Arts Desk
The Observer
The Guardian
Cast un
Cast dau
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Saesneg
Stiwdio Weston | Canolfan Mileniwm Cymru
Ni ellir cadw sedd
Mae Tymor RHYDDID WNO wedi’i noddi â balchder gan Associated British Ports (De Cymru) – 32 o flynyddoedd o gefnogi WNO a’r cymunedau a rannwn.