Dead Man Walking Heggie
Archived: 2018/2019Trosolwg
Opera gyntaf Jake Heggie yw Dead Man Walking, gyda libreto gan Terrence McNally
Opera gyntaf Jake Heggie yw Dead Man Walking, gyda libreto gan Terrence McNally. Mae’n seiliedig ar y llyfr gan y Chwaer Helen Prejean a ddaeth i enwogrwydd rhyngwladol am y tro cyntaf pan addaswyd yn ffilm a serennai Susan Sarandon.
Mae’r stori yn dilyn lleian sy’n cynnig cwnsela dyn sydd wedi ei gael yn euog o lofruddiaeth ac sy’n disgwyl y gosb eithaf, ac yn ddiweddarach i deuluoedd ei ddioddefwr.
Mae’r opera hon yn cynnwys Corws Opera Ieuenctid WNO, Cyn-aelodau’r Opera Ieuenctid, Corws WNO ac artistiaid gwadd.
Canllaw Oedran 18+
Yn cynnwys golygfa ddwys o ymosodiad o drais rhywiol a llofruddiaeth y gall rhai cynulleidfaoedd ei chael yn anghyfforddus.
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Saesneg gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
Canllaw oedran 18+
Ffeithiau
Yn cynnwys sesiwn holi ac ateb cyn-perfformiad yng nghwmni'r Cyfansoddwr Jake Heggie (dros gyswllt fideo) a'r Cyfarwyddwr Martin Constantine.
Lleoliad: Stiwdio Weston (Am ddim gyda thocyn i'r opera, archebu ymlaen llaw yn hanfodol)
Pryd: 6.45pm-7.15pm, 7 Mehefin
Synopsis
Prolog
Louisiana, 1980au
Act II
Mae’r brodyr Joseph ac Anthony De Rocher yn treisio ac yn llofruddio cwpwl yn eu harddegau. Ceir y ddau ohonynt yn euog: caiff Anthony ddedfryd oes yn y carchar, ac mae Joseph yn wynebu’r gosb eithaf. Yn Hope House, mae’r Chwaer Helen Prejean wrthi’n dysgu emyn i’r plant. Yn groes i gyngor y Chwiorydd, mae hi wedi derbyn gwahoddiad i ymweld â’i ‘ffrind drwy’r post’, Joseph De Rocher, carcharor sy’n wynebu’r gosb eithaf. Yng Ngharchar Talaith Lousiana, mae’n cwrdd â’r Tad Grenville a’r Warden Benton, sy’n ei rhybuddio bod Joseph yn wˆr didrugaredd. Mae Joseph yn profi ei hamynedd a’i hymroddiad, cyn gofyn iddi fod yn gynghorydd ysbrydol iddo. Mae’r Chwaer Helen yn mynd gyda mam Joseph i gyfarfod y bwrdd parôl. Yn y cyfarfod, daw wyneb yn wyneb â rhieni’r cwpwl ifanc a lofruddiwyd a gwrthodir yr apêl. Dywed y Chwaer Helen hynny wrth Joseph, gan annog iddo gyffesu i’w drosedd a gofyn am faddeuant, ond mae yntau’n gwrthod. Mae cybolfa o leisiau o bob cyfeiriad yn mynd yn ormod i’r Chwaer Helen ac mae’n llewygu.
EGWYL
Act II
Daw Joseph i wybod bod dyddiad ei ddienyddiad wedi ei bennu. Ar yr un pryd, mae Helen yn deffro wedi iddi gael hunllef, ac mae’r Chwaer Rose wrth law i’w chysuro. Ar noswaith ei ddienyddiad, mae Joseph a’r Chwaer Helen yn canfod bod ganddynt rywfaint yn gyffredin, ac mae’n syndod ganddynt weld cyfeillgarwch rhyngddynt yn hytrach na pherthynas fel carcharor a lleian. Yn eu dagrau, mae teulu Joseph yn cyrraedd ar gyfer eu hymweliad olaf. Mae’r tystion yn dechrau cyrraedd ar gyfer y dienyddiad, ac mae’r Chwaer Helen unwaith yn rhagor yn dod wyneb yn wyneb â rhieni’r cwpwl ifanc. Daw’r Chwaer Helen i ymweld â Joseph am y tro olaf. Mae yntau’n ildio i’r dagrau ac yn cyffesu i’r llofruddiaethau. Dywed hithau wrtho ei fod yn blentyn i Dduw, ac y bydd achubiaeth yn dod i’w ran. Yn y siambr ddienyddio, gofynna Joseph am faddeuant. Wrth iddo farw, clywir y Chwaer Helen yn canu ei hemyn.
Mae Tymor RHYDDID WNO wedi’i noddi â balchder gan Associated British Ports (De Cymru) – 32 o flynyddoedd o gefnogi WNO a’r cymunedau a rannwn.