La Cenerentola Rossini
Archived: 2018/2019Trosolwg
Mae addasiad hyfryd Rossini o Sinderela yn eich cludo i fyd tylwyth teg lliwgar llawn ffraethineb, gyda chymeriadau llawn bywyd a gwisgoedd llachar.
Addasiad hyfryd Rossini o Sinderela, gydag ambell i dro annisgwyl ar hyd y ffordd.
Mae’r Angelina garedig (Sinderela) yn cael ei gorfodi i sgwrio’r lloriau gan ei llystad mileinig, tra bod ei chwiorydd hyll yn paratoi i fynd i ddawns fawreddog y Tywysog yn y palas. Wrth i Angelina freuddwydio am fywyd gwell mae hi'n cael ymweliad gan hen gardotyn dirgel. Mae'n dweud wrthi y bydd hi’n mynd i’r ddawns, ac y bydd hi hefyd yn cael ei gwobrwyo am ei chalon garedig. Fydd hi'n byw'n hapus am byth tybed?
Mae WNO yn eich cludo i fyd tylwyth teg lliwgar llawn ffraethineb, gyda chymeriadau llawn bywyd, llygod hyfryd, a gwisgoedd llachar. Tomáš Hanus fydd yn arwain sgôr ysblennydd Rossini, wrth i ni wylio La Cenerentola yn trawsnewid o garpiau i gyfoeth trwy rym cerddoriaeth.
The Stage
The Reviews Hub
Cefnogir gan
Cyfeillion WNO
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Eidaleg, gydag uwchdeitlau Saesneg (Cymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno)
Cyd-gynhyrchiad gyda Houston Grand Opera, Grand Teatre del Liceu a Grand Théâtre de Genéve
Ffeithiau
Y storu Sinderela gynharaf mewn print yw Pentamerone Giambattista Basile ym 1634, lle mae Cenerentola yn ymddangos am y tro cyntaf. Oed fersiwn Charles Perrault Cendrillon a ysgrifennwyd ym 1697 a gyflwynodd y manylion sy'n cael eu cysylltu'n ddi-os â'r stori heddiw - y bwmpen, y ddewines garedig a'r sliper wydr yn benodol.
Ganwyd Rossini ym 1792 yn Nhaleithiau'r Pab ac adwaenwyd fel Swan of Pesaro. Caiff ei ystyried fel un o gyfansoddwyr mwyaf cyntaf y 19eg ganrif. Newidiodd ei arddull gerddorol gywrain y ffurf ar gelfyddyd yn gyfan gwbl, yn enwedig arddull opera buffa (opera gomig), gan gychwyn Canrif Euraidd i opera'r Eidal.
Pan ofynnwyd am ei ddewisiadau cerddorol, dywedodd Rossini, ‘Gwrandaf ar Beethoven ddwywaith yr wythnos, Haydn pedair gwaith yr wythnos, ond gwrandaf ar Mozart bob dydd – mae Mozart yn swynol bob amser!’
Synopsis
Mewn Neuadd yng nghastell Don Magnifico, mae ei ferched Clorinda a Tisbe yn ymbincio. Yn y cyfamser, mae eu llyschwaer Angelina, sy’n cael ei hadnabod fel Cenerentola, yn canu cân am frenin a ddewisodd ferch radlon i fod yn briodferch iddo. Mae Cenerentola yn gwylltio’i chwiorydd drwy roi brecwast i gardotyn. Ond mewn gwirionedd, Alidoro, tiwtor y Tywysog Ramiro, mewn cuddwisg yw’r cardotyn. Mae gosgordd marchogion y tywysog yn cyhoeddi bod y Tywysog ar fin cynnal dawns fawreddog lle bydd yn dewis y ferch brydferthaf i fod yn wraig iddo. Mae’r cardotyn yn darogan y bydd Cenerentola yn hapus yfory. Mae Magnifico’n deffro ac yn disgrifio breuddwyd y mae newydd ei gael, yn rhagweld lwc dda. Ar ôl clywed am ymweliad y Tywysog, mae’n meddwl yn siŵr y bydd y Tywysog yn dewis un o’i ferched i fod yn wraig iddo. Mae Ramiro eisiau gweld beth sy’n digwydd drosto’i hun, felly mae’n cyfnewid dillad gyda’i was, Dandini, ac yn ymweld mewn cuddwisg. Mae Ramiro a Cenerentola yn syrthio mewn cariad o’r funud gyntaf. Cyflwynir Clorinda a Tisbe i Dandini, sydd wedi gwisgo fel y Tywysog. Mae Cenerentola yn gofyn i gael mynd i’r ddawns ond mae Magnifico’n dweud wrthi am aros adref. Pan ddaw Alidoro â rhestr o ferched di-briod a gofyn ble mae trydedd ferch Magnifico, dywed Magnifico wrtho y bu hi farw. Yn gyfrinachol, mae Alidoro’n dweud wrth Cenerentola pwy ydyw ac yn ei gwahodd i’r ddawns. Yn y palas, mae Dandini, sy’n dal i fod mewn cuddwisg, yn gwneud Magnifico yn stiward gwin iddo. Mae Clorinda a Tisbe yn bod yn annifyr tuag at Ramiro, gan feddwl mai dim ond gweinydd ydyw. Mae merch brydferth, ddirgel yn ymddangos, ac mae’r llys-chwiorydd wedi rhyfeddu pa mor debyg ydyw i Cenerentola.
EGWYL
Mae Don Magnifico’n meddwl am yr holl arian y bydd yn ei wneud fel tadyng-nghyfraith y Tywysog. Ar ddamwain, mae’r Tywysog Ramiro’n clywed Cenerentola’n gwrthod carwriaeth â Dandini oherwydd ei bod mewn cariad gyda’i weinydd. Mae Cenerentola yn rhoi breichled i Ramiro ac yn dweud wrtho y bydd yn ei hadnabod oherwydd y bydd yn gwisgo breichled union yr un fath â honno. Mae’n addo y caiff Ramiro ei phriodi wedi hynny os yw’n dal yn ei charu. Mae Ramiro’n newid o’i guddwisg ac yn penderfynu mynd i chwilio am y ferch ddirgel. Mae Dandini’n gadael i Magnifico synfyfyrio cyn datgelu pwy ydyw go iawn. Ar ôl dychwelyd i gastell Magnifico, daw’r chwiorydd o hyd i Cenerentola wrth y tân. Caiff bryd o dafod ganddynt am feiddio edrych yn debyg i’r ferch yn y ddawns. Mae Alidoro’n gwneud yn siwˆr fod cerbyd y Tywysog yn troi drosodd y tu allan i’r castell. Mae Cenerentola a Ramiro yn adnabod ei gilydd ac mae pawb wedi’u syfrdanu gan yr holl ddryswch. Mae Ramiro’n cipio Cenerentola ymaith i’w gastell ac mae Alidoro’n rhybuddio’r chwiorydd i erfyn am faddeuant. Yn y briodas, mae Cenerentola’n ymbil ar y Tywysog i drugarhau wrth ei thad a’i llyschwiorydd, ac yn meddwl am y ffordd y mae ei ffawd ei hun wedi newid.